British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Medi 2010, 10:53 GMT 11:53 UK
O Fangor i San Francisco

Darlun gan Matt Jones
Llun Matt Jones o'i hun cyn mynd i America

Mae artist o Fangor yn mynd i San Francisco oherwydd swydd newydd gyda chewri'r byd animeiddio, Pixar.

Ar ôl gweld ei waith penderfynodd gwneuthurwyr y ffilmiau The Incredibles a Finding Nemo wahodd Matt Jones am gyfweliad cyn cynnig cytundeb tair blynedd.

"Dydyn nhw ddim wedi dweud ar beth y bydda i'n gweithio," meddai Matt, cyn-fyfyriwr cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai. "Mae'n gyfrinach."

Bydd yn aelod o dîm fydd yn dod â chymeriadau'n fyw ar bapur cyn i'r criw technegol greu'r ffilm animeiddiedig.

'Gweledol'

Matt Jones
Mae Matt eisoes wedi gweithio i gwmni Aardman, sydd wedi ennill sawl Oscar.

"Ni sy'n creu fersiwn weledol gynta'r sgript, proses all gymryd hyd at ddwy flynedd," meddai.

"Fydd y cwmni ddim yn bwrw mlaen i gynhyrchu'r ffilm tan fod y stori'n iawn, felly fe fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r cyfarwyddwr i greu cymeriadau gweledol iawn."

Mae wedi treulio blwyddyn yn gweithio i gwmni Aardman - sy'n gyfrifol am ffilmiau Wallace And Gromit - ar eu ffilm Arthur Christmas fydd yn cael ei rhyddhau'r flwyddyn nesa.

Yn yr haf fe ymgeisiodd mewn cystadleuaeth i hyrwyddo Norwy fel cyrchfan twristiaid.

Ond tra bod miloedd yn gweld ei waith, fydd neb yn gweld gwaith Matt gyda Pixar.

'Sail'

"Mae ein gwaith ni'n sail i'r animeiddio cyfrifiadurol, ond rydym wastad yn falch o weld ein gwaith yn ysbrydoli cymeriadau.

"Yn aml, mae'r artistiaid yn creu llais y cymeriad yn y dyddiau cynnar, ac os ydych chi'n dda, fe allai hwnnw gael ei ddefnyddio yn y ffilm orffenedig.

"Yn y ffilm Ratatouille, llais un o'r animeiddwyr sydd gan un cymeriad."

Pwy a ŵyr na fydd gan un o gymeriadau Pixar acen Bangor, aye.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific